Teisen frau

Teisen frau
MathBisged, Crwst, bwyd Edit this on Wikidata
GwladYr Alban Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Bisged nodweddiadol o'r Alban yw'r teisen frau a elwir hefyd yn gacen Aberffro neu teisen Berffro (shortbread yn Saesneg). Caiff ei baratoi'n draddodiadol gydag un rhan o siwgr, dwy o fenyn a thri o flawd, gan ychwanegu cynhwysion eraill o bosibl gan gynnwys wyau.[1] Mae'r enw Saesneg "short bread" yn cyfeirio at natur brau y math hwn o fisged (mae "short" yn hen derm am "friwsionllyd" o'i chymharu â "long" oedd yn fwydach mwy hylaw a di-dor).[2][3]

Mae'n bosibl dod o hyd i desien frau yn bennaf mewn tri fformat:

  • bysedd, y mwyaf nodweddiadol, gyda siâp hirsgwar hirgul a thrwchus iawn
  • cylchoedd, gyda siâp crwn tebyg i fathau eraill o fisgedi
  • petticoat tails, sef "teisen" fawr wedi'i rhannu'n lletemau gyda phatrwm pais las ("lace") arni

Ceir y cofnod Saesneg cynharaf o'r term "shortbread" yn 1908.[4] gyda'r term yn disgrifio natur y deisen neu'r fisgeden yn gywir. Daw'r enw Cymraeg o Wynedd yn wreiddiol, ac mae'r gair yn fyw iawn yno.[5]

  1. https://cy.unansea.com/bisgedi-teisen-frau-homemade-menyn-rysait-pobi-blasus/
  2. "Dictionary of the Scots Language:: DOST :: schort breid". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-08. Cyrchwyd 2021-11-20.
  3. "Dictionary of the Scots Language:: DOST :: schort adj". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-08. Cyrchwyd 2021-11-20.
  4. https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?tesien_frau
  5. Geiriadur y Brifysgol (GPC); Golygydd Andrew Hawke

Developed by StudentB